Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Tachwedd 2018
Amser:
08. -
09.30
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Siân Wilkins (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Anfonodd Neil Hamilton ei ymddiheuriadau, gan ei fod mewn Gwasanaeth Coffa yn Llundain. Roedd Gareth Bennett yn bresennol fel dirprwy.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Nid oes unrhyw bwnc wedi'i gyflwyno ar gyfer y Ddadl Fer. Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Cwestiynodd y Rheolwyr Busnes yr amser a ddyrannwyd i ddatganiadau llywodraeth ar 27 Tachwedd, gan fod rhywfaint o fusnes y Cynulliad wedi symud i'r diwrnod hwnnw i wneud lle ar gyfer y ddadl Cyfnod 3 ar y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) yn ystod amser y Cynulliad ar 5 Rhagfyr. Dyrennir 30 munud bellach i'r datganiadau canlynol:
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y diweddaraf ar Gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol
· Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y diweddaraf ar Weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mawrth 20 Tachwedd 2018
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig (30 munud)
Dydd Mawrth 27 Tachwedd 2018
·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Dydd Mercher 5 Rhagfyr 2018 –
·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais.
· Detholodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 21 Tachwedd:
NNDM6862 - Bethan Sayed
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod cyllid ar gyfer addysg bellach wedi bod o dan bwysau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i doriadau cyllidebol.
2. Yn nodi bod y sector addysg bellach wedi'i osod o dan bwysau ychwanegol, yn rhannol oherwydd polisïau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â dysgu gydol oes, sgiliau a chyflogadwyedd, a gafodd eu hegluro yn y cynllun cyflogadwyedd diweddar a ddiweddarwyd gan ddatganiad ysgrifenedig ym mis Medi 2018.
3. Yn mynegi pryder bod staff mewn sefydliadau addysg bellach yn ystyried mynd ar streic dros gyflogau annigonol a phryderon ynghylch llwythi gwaith trwm.
4. Yn cynnig na ddylai fod unrhyw ostyngiad pellach o ran faint o arian a dderbynnir gan y sector addysg bellach ac y dylid cydnabod ei safle fel allwedd i gynhyrchiant, sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd yn economi Cymru.
Cefnogwyr:
Mohammad Asghar
Siân Gwenllian
Helen Mary Jones
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at pryd y dylid amserlennu'r Ddadl Aelodau nesaf yr wythnos nesaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymestyn dyddiad cau Cyfnod 2 i 8 Chwefror 2019.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil Deddfwriaeth (Cymru) at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i'w ystyried.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a dod yn ôl at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar yr LCM i 4 Ionawr 2019. Nododd yr Aelodau sylwadau'r Pwyllgor ynghylch amserlennu LCMs ac argaeledd Gweinidogion ar gyfer craffu.
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunodd y dylid cynnal trafodaethau pellach y tu allan i'r pwyllgor, gyda'r bwriad bod y cynnig i lenwi'r lle gwag yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cael ei gyflwyno a'i ystyried yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon.
Ailadroddodd y Llywydd ei bwriad i alw UKIP yn olaf ar gyfer Cwestiynau'r Arweinwyr a Llefarwyr gofyn i'r Ceidwadwyr a Phlaid bob yn ail gyda'r gymhareb 6:5, fel y rhai cyntaf i ofyn cwestiynau, gan ddechrau'r wythnos hon.
Cytunodd Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y ddau gynnig arall o ran newid nifer y cwestiynau a ofynnir ac amseriad.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer toriad y Nadolig.
Dywedodd Gareth Bennett wrth y Rheolwyr Busnes yr hoffai UKIP ail-enwebu Neil Hamilton fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad. Nododd y Rheolwyr Busnes eto nad oedd ganddynt unrhyw reswm i feddwl y byddai eu haelodau'n pleidleisio'n wahanol yn y Cyfarfod Llawn y tro hwn, ac felly cytunodd nad oedd unrhyw ddiben i'r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig o'r fath. Gan hynny, dywedodd Gareth Bennett wrth y Rheolwyr Busnes yr hoffai UKIP enwebu David Rowlands fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad, a chytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i'w ychwanegu i agenda'r Cyfarfod Llawn fory.
Dywedodd hefyd wrth y Rheolwyr Busnes yr hoffai UKIP enwebu David Rowlands fel aelod arall o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Bydd cynnig yn cael ei gyflwyno a'i ychwanegu i agenda'r Cyfarfod Llawn yfory.